Mae ein dulliau traddodiadol o ffermio llaeth yn parhau heddiw, ond gyda'r manteision ychwanegol o fethodoleg organig; rydym yn sensitif i faterion cynaliadwyedd a'r gallu i olrhain a sicrhau bod ein cynnyrch llaeth naturiol llwyddiannus yn iach ac yn faethlon. Maent yn dod o wartheg sy'n pori ar ein porfeydd organig yma yn Ffosyficer, lle rydym yn magu gwartheg ac wyn ar gyfer cig organig, ac yn tyfu 300 erw o gnydau âr organig.

Mae DAIONI organig, ffres ar gael mewn poteli poly 2 ltr, 1 ltr a 500ml, fel llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim a llaeth sgim.
Mae gan laeth organig holl ddaioni maethlon llaeth anorganig, ond oherwydd deiet mwy naturiol y fuwch, mae iddo rai manteision iechyd ychwanegol hefyd. Mae astudiaethau wedi cadarnhau bod llaeth organig yn cynnwys llawer mwy o asid brasterog Omega 3 yn naturiol na llaeth anorganig. Mae hyn oherwydd y caiff gwartheg organig eu bwydo â lefelau uwch o feillion coch naturiol na gwartheg anorganig.

Canfu ymchwil diweddar bod y system ffermio organig yn cynhyrchu llaeth sydd 68% yn uwch ar gyfartaledd mewn cyfanswm yr asidau brasterog Omega 3 na llaeth anorganig. Mae hyn yn newyddion gwych i'r rhan fwyaf o bobl yn y DU sy'n brin o asidau brasterog Omega 3, sy'n hanfodol i gynnal calon iach, cymalau ystwyth a hyblyg, tyfiant iach ac esgyrn a dannedd cryf.

Yn ogystal, mae gwartheg a fegir yn organig, sy'n bwyta lefelau uchel o borfeydd glaswellt a meillion ffres a silwair gwair meillion, yn cynhyrchu llaeth sydd 50% yn uwch mewn Fitamin E (alpha tocopherol), 75% yn uwch mewn beta caroten (y mae ein cyrff yn ei drosi'n Fitamin A) a ddwywaith neu deirgwaith yn uwch yn y gwrthocsidyddion lwtein a seacsanthen ar gyfartaledd na llaeth anorganig.

Gall yfed peint o laeth organig bob dydd roi 17.5% o'r Fitamin E (alpha tocopherol) sy'n angenrheidiol i ferched ac 14% o'r hyn sy'n angenrheidiol i ddynion, a chymaint o feta caroten â chyfran o rai llysiau fel ysgewyll.



Yn cyflwyno ein
Hufen Dwbl
organig ffres Cymreig

Yn berffaith ar gyfer;

Chwipio, Arllwys
a Choginio.
Ble i ddod o hyd i'n cynnyrch

Mae Trioni yn falch o gyflenwi ei ddewis llaeth i amrywiaeth eang o gyfanwerthwyr, manwerthwyr mawr lluosog a manwerthwyr unigol.

Os cewch drafferth i ddod o hyd i Gynnyrch llaeth Trioni, cysylltwch â ni a gwnawn ein gorau i'ch helpu.

Pam Organig? 10 rheswm i fwyta'n organig, yn fwy aml...

  • Trioni Ltd. |
  • Ffosyficer |
  • Abercych |
  • Boncath |
  • Sir Benfro |
  • SA37 0EU