Sawl blwyddyn yn ôl, ar ôl trawsnewid ein fferm gymysg
1100 erw yma yng ngogledd Sir Benfro i gynhyrchu organig, sefydlwyd y busnes gennym gydag un tancer, cwpl o
loriau a llawer o freuddwydion … ac mae'r gweddill, fel y dywedir, yn hanes.


Yn 2003 lansiwyd Daioni gennym, sef y dewis o ddiodydd llaeth organig â blas cyntaf ym Mhrydain - cynnyrch y mae ei enw a'i gynnwys bellach ar wefusau pobl leol, yn ogystal â chwaraewyr pêl-droed enwog.

Erbyn heddiw rydym wedi tyfu i dros 2000 erw, sy'n ein galluogi i roi dewis hyd yn oed yn fwy i chi, y defnyddiwr, o gynnyrch llaeth blasus.

Mae hyd yn oed cwn a chathod teulu Harris yn mwynhau Daioni, a phwy all eu beio?
  • Trioni Ltd. |
  • Ffosyficer |
  • Abercych |
  • Boncath |
  • Sir Benfro |
  • SA37 0EU