10 rheswm i fwyta'n organig, yn fwy aml...
1. Mae'n iach
Ar gyfartaledd, mae bwyd organig yn cynnwys lefelau uwch o fitamin C a mwynau hanfodol fel calsiwm, magnesiwm, haearn a chromiwm, yn ogystal â gwrthocsidyddion sy'n ymladd canser.
2. Dim ychwanegion cas
Nid yw bwyd organig yn cynnwys ychwanegion bwyd sy'n gallu achosi problemau iechyd fel clefyd y galon, osteoporosis, meigryn a gorfywiogrwydd. Ymhlith yr ychwanegion a waherddir gan Gymdeithas y Pridd mae braster hydrogenaidd, aspartam (melysydd artiffisial) a monosodiwm glwtamad.
3. Osgoi plaladdwyr
Caiff dros 400 o blaladdwyr cemegol eu defnyddio'n rheolaidd mewn ffermio confensiynol ac yn aml mae gweddillion yn bresennol mewn bwyd anorganig. Yn ddiweddar, mae llywodraeth y DU wedi canfod lefelau uchel o weddillion plaladdwyr mewn bwyd i fabanod, sbigoglys, ffrwythau sych, bara, afalau, seleri a sglodion.
4. Rhydd o GM
Ni chaiff cnydau a chynhwysion wedi'u haddasu'n enetig eu caniatau o dan safonau organig.
5. Dilêir yr angen i ddibynnu ar gyffuriau
Mae pryder yn cynyddu yngl

n â'r defnydd mawr o wrthfiotigau ar anifeiliaid fferm a'r effeithiau posibl ar iechyd dynol. Mae safonau Cymdeithas y Pridd yn gwahardd defnyddio gwrthfiotigau yn rheolaidd.
6. Dim costau cudd
Cymharwch hyn â'r £120m y mae trethdalwyr yn ei dalu i dynnu cemegau o ddr yfed, yn bennaf o ganlyniad i'r plaladdwyr a ddefnyddir wrth ffermio.
7. Safonau uchel
Daw bwyd organig o ffynonellau dibynadwy. Caiff pob fferm a chwmni bwyd organig ei archwilio o leiaf unwaith y flwyddyn. Nodir y safonau ar gyfer bwyd organig yng nghyfraith Ewrop.
8. Gofalu am anifeiliaid
Cymerir lles anifeiliaid o ddifrif o dan safonau organig. Cydnabyddir manteision y dull organig gan sefydliadau lles anifeiliaid megis Compassion in World Farming, yn ogystal â llywodraeth y DU.
9. Yn dda ar gyfer bywyd gwyllt a'r amgylchedd
Mae llywodraeth y DU wedi dweud ei fod yn well i fywyd gwyllt, yn achosi llai o lygredd o chwistrellu, yn cynhyrchu llai o garbon deuocsid - y prif nwy cynhesu byd-eang - a llai o wastraff peryglus.
10. Ar y brig o ran blas
Mae'n well gan bobl fwyd organig gan eu bod yn dweud ei fod yn blasu'n well. Mae nifer o'r cogyddion gorau'n dewis bwyd organig, a phob blwyddyn mae llawer ohonynt yn cymryd rhan yng Ngwobrau Bwyd Organig Cymdeithas y Pridd.